Ailgread Cynhwysfawr o Ganeuon Gorau Queen
Mae The Bohemians yn fand teyrnged o fri rhyngwladol i Queen. Yn y cyngerdd hwn, byddant yn eich arwain ar daith llawn egni, gyda holl glasuron un o’r bandiau roc mwyaf eiconig a phoblogaidd erioed.
Y mae cymaint o ganeuon anhygoel i’w canu, ond maent i gyd yma – o’r campweithiau piano llawn harmoni cynnar, i ganeuon pop cofiadwy yr wythdegau ac anthemau roc y nawdegau cynnar.
Pa un a fo’n Killer Queen, Crazy Little Thing Called Love neu The Show Must Go On, Bohemian Rhapsody neu Will Rock You/We Are the Champions, bydd The Bohemians yn gwneud i chi godi ar eich traed, yn canu, dawnsio ac yn curo dwylo mewn ailgread byw cofiadwy o fand roc gorau’r byd.