Mae’r sioe gerdd ryngwladol boblogaidd sydd wedi ennill gwobrau THE BODYGUARD yn ôl!
Mae cyn asiant i’r Gwasanaeth Cudd sydd bellach yn gweithio fel gwarchodwr personol yn cael ei gyflogi i amddiffyn y seren bop, Rachel Marron, rhag stelciwr anhysbys. Mae’r ddau yn disgwyl mai nhw fydd wrth y llyw - does yr un ohonynt yn disgwyl syrthio mewn cariad.
Gyda’i stori gyffro ramantus ‘WYCH!’ (The Times), mae sioe gerdd THE BODYGUARD yn cynnwys cyfres o glasuron hudolus gan gynnwys y caneuon Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love, Run to You, I Have Nothing, Greatest Love Of All, Million Dollar Bill, I Wanna Dance With Somebody ac un o’r caneuon mwyaf poblogaidd erioed – I Will Always Love You.
‘YOU GO IN HUMMING THE TUNES, YOU COME OUT WHOOPING THEM!’
The Independent