Billy Ocean a Chefnogaeth

Billy Ocean a Chefnogaeth

Taith One World 2020

Archebwch nawr

Yn dilyn ei daith hynod lwyddiannus yn gynharach eleni, mae’r eicon Soul Prydeinig Billy Ocean wedi cyhoeddi taith enfawr arall o amgylch Prydain a fydd yn dechrau yn gwanwyn 2021. Bydd Billy’n perfformio’r hen ffefrynnau yn ogystal â chaneuon o’i albwm diweddaraf, ‘One World’, a fydd yn cael ei ryddhau yng ngwanwyn 2020. 

Billy Ocean yw’r seren sydd wedi gwerthu mwy o recordiau nac unrhyw berfformiwr du arall o Brydain, gan werthu dros 30 miliwn o recordiau yn ei oes hyd yma. Ar ôl cael llwyddiant anhygoel fel artist ac ysgrifennwr caneuon, mae Billy wedi casglu nifer o recordiau Aur a Platinwm ar draws y byd ac wedi bod yn rhif un ar draws y byd yn y siartiau pop gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r DU.

Yn 2016 rhyddhawyd albwm ‘Here You Are: The Best Of Billy Ocean’ yn y DU, gan sicrhau safle yn 10 uchaf y siartiau drwy gyrraedd Rhif 4, ei safle uchaf yn siartiau'r albymau ers 1989. Eleni, dathlodd Billy 35 mlynedd ers iddo ryddhau’r albwm a dorrodd dir newydd, ‘Suddenly’. O’r record hon a ryddhawyd yn wreiddiol ym 1984 y deilliodd y caneuon aruthrol o lwyddiannus ‘Caribbean Queen (No More Love On The Run)’, ‘Mystery Lady’ a ‘Loverboy’. Wrth baratoi ei hun i gyhoeddi ei albwm newydd hir-ddisgwyliedig, mae’n argoeli y bydd 2020 yn flwyddyn fawr arall i Billy.