Beyond The Barricade

Beyond The Barricade

Archebwch Nawr

Beyond the Barricade ydi taith gyngerdd theatr gerdd hynaf y DU ac mae’n cynnwys cyn-berfformwyr o Les Miserables. Dyma ddwy awr a mwy o oreuon Broadway a’r West End, gyda pherfformiad syfrdanol o Les Mis i ddod â’r noson arbennig i ben. Mae’r sioe newydd sbon hon yn cynnwys llawer o'r caneuon gorau sy’n gwneud Beyond the Barricade yn un o’r cyngherddau theatr gerdd mwyaf poblogaidd Prydain.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys David Fawcett (Valjean), Andy Reiss (Enjolras a Chyfarwyddwr Preswyl Taith Genedlaethol Les Miserables), Katie Leeming (Eponine) a Poppy Tierney (Cosette), ynghyd â band byw sy’n cyfleu teimlad trefniadau cerddorfaol gwreiddiol y sioeau cerdd. 

Hyd heddiw, mae pob nodyn cerddorol yn cael ei chwarae a’i ganu’n fyw – sy’n brin iawn dyddiau yma. Mae Beyond the Barricade yn rhoi triniaeth gyngerdd gyffrous i ganeuon y theatr gerddorol – gan wneud hynny gydag argyhoeddiad a bwriad i ddarparu’r deunydd fel pe bai’r gynulleidfa yn gwylio’r perfformiad gwreiddiol.