Beauty and the Beast
-

Beauty and the Beast

-
Book now

Ymunwch â ni ar gyfer y pantomeim hudolus Beauty and the Beast y Nadolig hwn, lle bydd ffefryn gyda ni yma yn Llandudno.

Pan fo tywysog trahaus yn cael ei felltithio i fyw fel bwystfil, ei unig obaith o gael ei achub yw syrthio mewn cariad cyn i’r petal olaf ddisgyn oddi ar y rhosyn hudol. Daw’r ferch brydferth o’r pentref, Beauty, i’w fywyd – ai dyma’i gyfle?

Dewch i greu atgofion gyda’ch teulu y Nadolig hwn gyda’r panto teuluol hwyliog yma. Ceir yma’r holl gynhwysion ar gyfer taith hudolus i’r theatr, gyda hiwmor slapstic doniol dros ben, digon o gynnwys y gynulleidfa, a chaneuon gwych y byddwch yn eu canu am ddiwrnodau wedyn – y cyfan mewn un sioe hudolus sy’n addas i bawb, p’un a ydynt yn 3 neu’n 103 mlwydd oed!

Bydd Beauty and the Beast yn siŵr o wneud i chi chwerthin, crïo a syrthio mewn cariad gyda llu o gymeriadau doniol a blewog – felly archebwch eich tocynnau ’rŵan ar gyfer panto llawn hwyl, ac i weld a all Beauty weld y tu hwnt i’r blew, a dysgu sut i garu bwystfil!