Barry Steele's: Roy Orbison Story

Barry Steele's: Roy Orbison Story

Book now

Yn 1963, fe berfformiodd Roy Orbison am y tro cyntaf yn The Adelphi yn Slough – yn Rhagfyr 2018 perfformiodd Barry Steele yn Theatr yr Adelphi yn y West End yn Llundain. Yn 1988, ymunodd Roy Orbison â ‘The Traveling Wilburys’ – yn Barry Steele and Friends, mae’r cast cyfan yn dod ynghyd i greu asiad anhygoel o Roc a Rôl wrth iddynt ddal gwir ysbryd y grŵp gwreiddiol arbennig.

Yn 2017, cafodd clasuron Roy Orbison eu haddasu gan gerddorfa’r Philharmonic! – mae Barry Steele and Friends yn falch o gyflwyno eu fersiynau nhw o’r campweithiau yma.

Diolch i ryfeddodau technoleg, bu Roy Orbison a Buddy Holly yn teithio’r byd gyda’i gilydd ar daith hologram. Eleni, rydym ni’n falch iawn o groesawu ein ‘Brown Eyed Handsome Man’ ein hun ar y sioe.

Fe gasglodd Chris Isaak nifer o wobrau ar ran y teulu Orbison, ac fe wnaeth hefyd recordio nifer o ganeuon Roy Orbison – yn Barry Steele and Friends, telir teyrnged iddo yntau gyda fersiynau trawiadol o’r ffefrynnau byd-eang ‘Blue Hotel’ a ‘Wicked Game’.

Fe fydd Barry Steele a’i gast gwych o gerddorion a chantorion yn eich tywys ar daith gerddorol o ‘The Black and White Night’ hyd at y Traveling Wilburys a thu hwnt – gyda chymaint mwy rhyngddynt. Mae’n argoeli i fod yn noson o ddawnsio yn eich sedd, mewn perfformiad yn llawn dop o glasuron go iawn – Roc a Rôl gyda steil.