Mae Beverley Bell Hughes yn grochenydd sydd wedi ennill gwobrau ac yn byw ger Llandudno, Gogledd Cymru. Gan fod nam ar olwg Beverley mae cyffyrddiad a theimlad y clai, boed yn glai llosg neu cyn ei danio, yn hynod bwysig. Yn byw ger y môr, mae ei gwaith yn cael ei ysbrydoli gan dirwedd garw’r ardal. Bydd Bev yn arwain y cyfranogwyr i archwilio clai drwy gyffyrddiad.
Bydd y gweithdy synhwyraidd yn annog cyfranogwyr i weithio â mwgwd dros eu llygaid i archwilio’r deunydd mewn ffordd newydd. Bydd cyfle i gyfranogwyr wneud cwpan neu eitem debyg. Gofynnir i gyfranogwyr ddod â phowlen y maent yn hoffi ei siâp gyda nhw.
- Dydd Gwener 22 Gorffennaf: 10.30am – 1pm
- Canolfan Ddiwyliant Conwy
- £10.00
- Gweithdy i oedolion
- Nifer cyfyngedig o lefydd