Annie
-

Annie

-
Archebwch nawr

Mae cynhyrchiad hynod boblogaidd y West End, a hoff sioe gerdd deuluol y byd, ANNIE, yn dod i Landudno am 1 wythnos yn unig. 

Yn Efrog Newydd yng nghanol y Dirwasgiad Mawr, mae Annie fach annwyl yn cael ei gorfodi i fyw bywyd digalon yng nghartref plant amddifad Miss Hannigan. Ond daw tro ar fyd pan gaiff ei dewis i dreulio Nadolig hudolus gyda’r biliwnydd enwog, Oliver Warbucks. Yn y cyfamser, mae gan yr hen Miss Hannigan sbeitlyd syniadau eraill ac yn cynllwynio i ddifetha ymgais Annie i ddod o hyd i’w theulu go iawn.....

Gyda llyfr a sgôr sydd wedi ennill Tony®, gan gynnwys caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, mi fyddwch chi wrth eich bodd gyda’r sioe gerdd hon!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event